R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):Pa gynnydd a wnaed yn ddiweddar o ran trin cleifion canser yng Nghymru. OAQ(4)0962(FM)
2. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu’r sefyllfa ddiweddaraf ar gynnydd cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiogelu plant rhag y risg o fwg ail-law. OAQ(4)0955(FM)
3. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Beth mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud i annog mwy o fenthyca i roi hwb i weithgarwch economaidd. OAQ(4)0961(FM)
4. Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wella lefelau incwm ffermydd yng Nghymru. OAQ(4)0968(FM)W
5. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi economi gogledd ddwyrain Cymru. OAQ(4)0966(FM)
6. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wella gofal iechyd ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed. OAQ(4)0954(FM)
7. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Faint o blant, pobl ifanc ac oedolion sy’n aros am wasanaethau cynghori yn dilyn datgeliadau diweddar am gam-drin plant yng Ngogledd Cymru. OAQ(4)0967(FM)W
8. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd o ran cyflwyno polisi ynni Llywodraeth Cymru. OAQ(4)0965(FM)
9. Darren Millar (Gorllewin Clwyd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am adfywio economaidd yng ngogledd Cymru. OAQ(4)0951(FM)
10. Mick Antoniw (Pontypridd):Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i nodi Diwrnod Cofio Gweithwyr ar 28 Ebrill 2013. OAQ(4)0958(FM)
11. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Beth fu canlyniad y gwaith a wnaed hyd yma gan brosiect ymchwil Troseddau Casineb Cymru Gyfan.OAQ(4)0956(FM)
12. Ken Skates (De Clwyd):A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Gogledd Cymru dros y deuddeng mis nesaf. OAQ(4)0963(FM)
13. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith yr Uned Gyflawni o ran cwrdd â'i flaenoriaethau portffolio yn ystod y Pedwerydd Cynulliad.OAQ(4)0953(FM)
14. Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lefelau mynediad presennol at Addysg Bellach ac Addysg Uwch i fyfyrwyr o Dde Caerdydd a Phenarth.OAQ(4)0960(FM)
15. Christine Chapman (Cwm Cynon):Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gynyddu nifer y cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau sydd ar gael i bobl ifanc yng Nghwm Cynon. OAQ(4)0952(FM)